Mae elw Barclays ar gyfer hanner gyntaf y flwyddyn wedi codi ond bydd yn rhaid i’r banc dalu £700m yn ychwanegol i ad-dalu pobol am gam-werthu yswiriant diogelu taliadau [PPI].
Fe wnaeth elw cyn-dreth y grŵp cynyddu 13% i £2.34bn ar gyfer y chwe mis a ddaeth i ben ym mis Mehefin.
Mae’r busnes wedi bod drwy broses ail-strwythuro corfforaethol er mwyn canolbwyntio ar ei waith yn y Deyrnas Unedig ac America.
Mae’r sgandal PPI yn dal i effeithio ar y banc, fel Lloyd’s ddoe, gyda’i elw canolog cyn treth yn disgyn 25% i £2.98 biliwn.
Yn dilyn yr ail-strwythuro, dywedodd Prif Weithredwr Barclays, Jes Staley, fod y banc bellach yn gallu canolbwyntio ar gynyddu elw i’w gyfranddalwyr.
Cyhuddo pedwar o dwyll
Fel pennaeth y banc, mae Jes Staley ynwynebu ymchwiliad ar ôl iddo geisio adnabod y person wnaeth chwythu’r chwiban ar yr hyn oedd yn digwydd yn fewnol.
Mae cyn-brif weithredwr Barclays a thri o’i fancwyr gorau wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i dwyllo yn ystod mis Mehefin 2008.
Mae disgwyl i’r pedwar – John Varley, Roger Jenkins, Thomas Kalaris a Richard Boath – fynd o flaen eu gwell yn 2019.