Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo o ladd merch yn ei arddegau – a’r gred gan Heddlu’r Met ydi mai ‘trosedd anrhydedd’ oedd hi.

Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau fod dyn 33 wedi’i gyhuddo o lofruddio, treisio a herwgipio dynes 19 oed.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o dreisio, ceisio llofruddio ac o herwgipio ail ddynes yn ei 20au.

Ac mae ail ddyn, 28, wedi’i gyhuddo heddiw o herwgipio o ddwy ddynes yn Kingston, de-orllewin Llundain, ddydd Mercher diwethaf (Gorffennaf 19).

Daethpwyd o hyd i gorff y ddynes 19 oed rhyw deirawr yn unig ers i’r heddlu gael gwybod ei bod ar goll.