Charlie Gard (Llun: Drwy law y teulu/PA)
Mae disgwyl i arbenigwr o America, sydd wedi cynnig rhoi triniaeth i Charlie Gard, ymweld â’r babi am y tro cyntaf dros y deuddydd nesaf.

Mae’r plentyn 11 mis oed – sydd ar beiriant cynnal bywyd yn Ysbyty Great Ormond Street oherwydd cyflwr prin sydd wedi  effeithio ar ei ymennydd – wedi bod ynghanol brwydr gyfreithiol sydd wedi cael sylw ar draws y byd dros yr wythnosau diwethaf.

Fe fydd Michio Hirano, sy’n athro niwroleg yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol Columbia yn Efrog Newydd, yn ymweld â Charlie Gard yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain.

Mae disgwyl iddo hefyd drafod yr achos gyda meddygon sy’n ei drin ynghyd ag arbenigwyr meddygol eraill.

Mae’r ymweliad wedi cael ei drefnu fel rhan o’r rownd diweddara yn y frwydr gyfreithiol er mwyn caniatáu i’r plentyn 11 mis oed gael triniaeth arbrofol yn America.

Mae meddygon yn Ysbyty Great Ormond Street yn dadlau na fyddai’r driniaeth yn gymorth iddo a bod angen i’r peiriant cynnal bywyd gael ei ddiffodd.

Ond mae ei rieni, Chris Gard a Connie Yates, yn awyddus iddo gael triniaeth yn yr Unol Daleithiau ar gyfer ei gyflwr genetig prin.