Mae Surinder Arora wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer trydedd llain lanio ym maes awyr Heathrow, gan ddweud bod ei gynlluniau £5 biliwn yn rhatach na’r cynllun presennol.

Mae’r dyn busnes, sydd wedi gwneud ei ffortiwn yn y diwydiant gwestai, wedi cyflwyno’i gynlluniau i ymgynghoriad cyhoeddus.

Ond mae lle i gredu bod Llywodraeth Prydain yn ffafrio cynlluniau’r maes awyr am llain lanio a therfynfa gwerth £17.5 biliwn.

Y cynlluniau

Mae cynlluniau Surinder Arora yn cynnwys newid dyluniad adeiladau’r terfynfeydd a mannau aros tacsis, a lleihau faint o dir sy’n cael ei orchuddio gan adeiladau.

Mae hefyd yn ceisio lleihau’r tagfeydd ar yr M4 a’r M25 ar y ffordd i mewn i Heathrow.

Mae’r cynlluniau wedi cael eu croesawu gan Willie Walsh, pennaeth IAG, sy’n berchen ar British Airways.

Ymgynghoriad cyhoeddus

Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus ddiwedd y flwyddyn, a does dim disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau am dair blynedd arall o ganlyniad i her gyfreithiol sy’n galw am ystyried ffactorau amgylcheddol y llain lanio.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, byddai’r llain lanio’n werth £61 biliwn i economi gwledydd Prydain, gan greu hyd at 77,000 o swyddi dros gyfnod o 14 o flynyddoedd.