Mae nifer o aelodau seneddol wedi galw ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May i gyhoeddi ymchwiliad tebyg i Hillsborough i’r sgandal gwaed wedi’i heintio.

Mewn llythyr, dywedodd chwech o aelodau seneddol Llafur a’r DUP y dylid ymchwilio i honiadau o gelu gwybodaeth ac nad oedd cleifion wedi cael gwybod am risgiau, hyd yn oed ar ôl i’r helynt ddod yn hysbys.

Mae’r llythyr wedi’i lofnodi gan arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn ac arweinydd y DUP, Nigel Dodds, yn ogystal ag Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts.

Mae Theresa May eisoes wedi dweud y byddai’r llywodraeth yn edrych ar unrhyw dystiolaeth newydd ynghylch y sgandal oedd wedi gweld nifer sylweddol o bobol yn cael eu heintio â hepatitis C a HIV yn y 1970au a’r 1980au.

Y llythyr

Mae’r llythyr, sydd hefyd wedi’i lofnodi gan gynrychiolwyr o’r Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP a’r Blaid Werdd, yn galw ar Theresa May i orfodi unrhyw un sy’n rhan o’r sgandal i roi tystiolaeth i ymchwiliad.

Dywed y llythyr “fod gan y sawl a gafodd eu heffeithio yr hawl i wybod beth aeth o’i le; a pham”.

Y sgandal

Mae lle i gredu bod o leiaf 2,400 o bobol wedi marw ar ôl cael eu heintio.

Cafodd cyflenwadau eu mewnforio o’r Unol Daleithiau oedd wedi defnyddio gwaed carcharorion oedd wedi cael ei werthu.

Mae’r llythyr yn galw am ymchwilio i rôl cwmnïau Americanaidd oedd wedi gwneud elw o’r broses drwy gynnig gwaed oedd wedi cael ei heintio.

‘Caledi a phoen’

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd San Steffan: “Fe wyddom fod y drasiedi hon wedi achosi caledi a phoen na ellir eu dychmygu i’r sawl a gafodd eu heffeithio.

“Dyna pam ein bod ni wedi cynyddu faint o arian ry’n ni’n ei wario ar daliadau i ddioddefwyr i’w lefel uchaf ers 2016, gyda £125 miliwn ychwanegol i gefnogi’r sawl sydd ei angen.

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd bod yn hollol dryloyw, a dyna pam ein bod ni wedi cyhoeddi’r holl wybodaeth sydd gennym ar ddiogelwch gwaed o’r cyfnod dan sylw, rhwng 1970 a 1995.

“Byddwn yn ystyried yn ofalus unrhyw dystiolaeth newydd sy’n dod i law cyn penderfynu ar y camau nesaf.”