Mae dyn 26 oed wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddio tad i bedwar o blant wrth iddo aros am dram.

Fe gafodd Anthony Banting, 57, ei drywanu i farwolaeth yng ngorsaf dramiau Benson Road yn Birmingham ar Fawrth 31.

Fe ymddangosodd Alaeldien Ahmed, o Windon Green yn Llys y Goron Birmingham gyda chymorth cyfieithydd. Ni blediodd y naill ffordd na’r llall, ac mae dyddiad dros-dro ar gyfer ei achos wedi’i drefnu ar gyfer nes ymlaen eleni.

Mae disgwyl i Alaeldien Ahmed ymddangos Llys y Goron Birmingham ar Fedi 25.