Mae angen datrys sefyllfa ffiniau Iwerddon ar ôl Brexit, yn ôl conffederasiwn busnes y CBI.

Roedd allforion Gogledd Iwerddon i Weriniaeth Iwerddon yn werth £2.4 biliwn y llynedd, meddai’r conffederasiwn.

Dywedodd y cyfarwyddwr cyffredinol, Carolyn Fairbairn ei bod hi’n “hanfodol bwysig ein bod ni’n dod i gytundeb synhwyrol ar fater ffiniau sy’n galluogi busnesau ar y ddwy ochr i ffynnu.”

Ychwanegodd fod y ddwy wlad yn cytuno ar yr “heriau y byddai Brexit afreolus yn eu cynnig i fusnesau yn y de a’r gogledd”.

‘Rhaid peidio â rhoi Iwerddon dan anfantais’

Ychwanegodd Danny McCoy, prif weithredwr Ibec sy’n cynrychioli busnesau Gwyddelig: “Mae canolbwyntio’n gynnar ar osgoi ffin galed gyda Gogledd Iwerddon yn hanfodol, ond rhaid i agwedd Iwerddon hefyd gael ei dylanwadu gan bwysigrwydd economaidd y berthynas fasnachu rhwng dwyrain a gorllewin, Iwerddon a Phrydain.

“Ym masnach a buddsoddi, rhaid i ganlyniadau’r trafodaethau beidio â rhoi Iwerddon dan anfantais.”

Ychwanegodd y dylai’r bartneriaeth fod “mor eang, cynhwysfawr ac uchelgeisiol â phosib” o ran nwyddau a gwasanaethau.