Diane Abbott (Llun: PA)
Mae cannoedd o bobol wedi marw yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain, yn ôl llefarydd materion cartref Llafur, Diane Abbott.

Dywedodd ei bod hi’n disgwyl i nifer y meirw godi ymhell y tu hwnt i’r 79 sydd eisoes wedi’i gyhoeddi.

Agwedd y Ceidwadwyr at dai cymdeithasol sy’n gyfrifol am y tân, meddai yn ystod cynhadledd Cynnydd Llafur.

“Nid damwain yn unig oedd Tŷ Grenfell; nid damwain anffodus yn unig oedd Tŷ Grenfell. Roedd y cannoedd o bobol fu farw yn ganlyniad uniongyrchol i agweddau Torïaidd at dai cymdeithasol.”

Ychwanegodd ei bod hi’n credu bod y Ceidwadwyr yn ystyried deiliaid tai cymdeithasol yn “ddinasyddion eilradd”.