Barclays Llun: PA
Mae banc Barclays a phedwar unigolyn, gan gynnwys y cyn-bennaeth John Varley, wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i dwyllo yn ystod yr argyfwng ariannol yn 2008.

Dywed y Swyddfa Dwyll Difrifol (SFO) ei bod wedi dod a chyhuddiadau yn erbyn y banc yn ogystal â’r cyn-brif weithredwr John Varley, 61, Roger Jenkins,  61, cyn-gadeirydd adran fuddsoddi Barclays Capital yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, yn ogystal â dau uwch swyddog arall Thomas Kalaris, 61, a Richard Boath, 58.

Mae’r Swyddfa Dwyll Difrifol yn dweud bod y cyhuddiadau’n ymwneud a’r modd roedd y banc wedi codi arian yn 2008, ar ôl i Barclays wneud ymgais frys i godi arian gan fuddsoddwyr yn Qatar wrth i’r argyfwng ariannol effeithio’r sector.

Fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys Ynadon Westminster ar 3 Gorffennaf.