Diane Abbott (Llun: PA)
Mae Diane Abbott wedi dychwelyd i reng flaen y Blaid Lafur yn dilyn pryderon am ei hiechyd.

Mae hi wedi cael ei phenodi’n llefarydd materion cartref ar ôl iddi gael ei disodli gan Lyn Brown am ychydig ddiwrnodau cyn yr etholiad cyffredinol.

Mae Diane Abbott yn dioddef o glefyd y siwgr a doedd hi ddim wedi gallu cadw trefn ar y salwch yn ystod yr ymgyrch.

Cafodd hi ei beirniadu sawl gwaith yn ystod yr ymgyrch am gyfres o wallau mewn cyfweliadau pan gafodd hi ei holi am ariannu’r heddlu a diogelwch.

‘Cefnogaeth’

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wrth raglen Peston on Sunday ar ITV bod Diane Abbott yn derbyn cefnogaeth am y cyflwr.

“Ces i sgwrs gyda hi yn ystod y cyfnod hwnnw ac roedden ni’n teimlo ei bod hi’n briodol iddi gael seibiant o’r ymgyrchu dwys ar lefel genedlaethol.

“Mae hi’n derbyn yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arni a hi yw’r llefarydd materion cartref.”