Mae rhwydi sydd yn cael eu defnyddio i ddal corgimwch i’w gwerthu yng ngwledydd Prydain yn lladd miloedd o grwbanod y môr, yn ôl adroddiad.

Yn ôl arolwg Pwyllgor Pysgodfeydd y Guiana Ffrengig, mae 29,000 o grwbanod y môr yn cael eu lladd pob blwyddyn – yn cynnwys rhywogaethau prin – gan rwydi pysgota cwmnïau sy’n allforio i Ewrop a gwledydd Prydain.

Mae modd osgoi’r broblem trwy ychwanegu dyfais yn y rhwydi sydd yn galluogi i’r crwbanod ddianc, heb gael effaith ar nifer y corgimwch sy’n cael eu dal.

A hithau’n Ddiwrnod Crwbanod Rhyngwladol mae sefydliad y Gronfa Bywyd Gwyllt Rhyngwladol (WWF) wedi galw ar y Deyrnas Unedig i wahardd mewnforio corgimwch o gwmnïoedd sydd yn gwrthod defnyddio’r ddyfais.

“Cyfrannu at farwolaethau”

“Dw i’n siŵr fydd llawer o bobol yn y Deyrnas Unedig yn synnu clywed y gall bwyta corgimwch gyfrannu at farwolaethau crwbanod prin,” meddai Pennaeth Polisi Morol WWF, Dr Lyndsey Dodds .

“Wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno mesur i orfodi pysgodfeydd sy’n allforio i Brydain, i ddefnyddio rhwydi â dyfeisiau fel bod crwbanod yn medru dianc.”