Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi cadarnhau y bydd yna ymchwiliad cyhoeddus i dân Twr Grenfell yng ngorllewin Llundain.

Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth i Heddlu’r Met gadarnhau fod 17 wedi marw yn y twr fflatiau 24 llawr o ganlyniad i’r tân yn ystod oriau mân ddydd Mercher.

Ond y gred yw y bydd y ffigur yn codi i’r “cannoedd” wedi i’r timau o achubwyr a’u cwn wneud eu gwaith. Fe allai’r gwaith hwnnw gymryd “wythnosau”, meddai’r awdurdodau.

Mae Theresa May wedi mynnu fod yn rhaid cynnal “ymchwiliad iawn” o’r “trasiedi ofnadwy” ac yn ystod ymweliad â’r safle dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, “fe ddaw’r gwir i’r amlwg”.