Mae disgwyl i nifer y meirwon mewn tân mewn bloc o fflatiau yng ngorllewin Llundain godi’n sylweddol, wrth i achubwyr ac ymchwilwyr fynd trwy’r adeilad i chwilio am gyrff.

Mewn o leiaf ddwsin o bobol wedi marw yn y fflamau yn Grenfell Tower, Kensington, ddydd Mercher.

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi addo “ymchwiliad iawn” wedi i’r tân gynnau yn ystod oriau mân ddydd Mercher, ac wrth i bobol holi sut fedrodd y fflamau ledu mor sydyn.

Mae grwpiau sy’n cynrychioli’r trigolion yn dweud iddyn nhw leisio eu pryderon am ddiogelwch yr adeilad ers blynyddoedd. Roedd y bloc wedi’i atgyweirio yn ddiweddar, ond eto, mae’r trigolion a lwyddodd i ddianc o’r fflamau yn dweud nad oedd y larymau tân yn gweithio.

Un peth sy’n cael ei gyfeirio ato ydi’r gorchudd oedd wedi’i roi ar y tu allan i’r adeilad i’w insiwleiddio, ond a allai fod wedi ei wneud yn fwy fflamychol.