Mae bachgen yn ei arddegau wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiadau’n ymwneud â chyffuriau, yn dilyn marwolaeth merch 14 oed yn ninas Glasgow.

Mae’r bachgen 16 oed, sydd hefyd o Glasgow, wedi’i gyhuddo dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. Dydi o ddim eto wedi pledio naill ffordd na’r llall, ac fe fydd yn ymddangos eto gerbron y llys.

Bu farw merch 14 oed – sydd wedi’i henwi’n lleol yn Zoe Bremner – yn ardal Dundasvale Court am 12.45yb ddydd Sul. Fe gafodd bachgen a merched arall, 15 oed, eu trin yn Ysbyty Prifysgol y Frenhines Elizabeth ar ôl mynd i deimlo’n sâl, ond maen nhw bellach wedi’u hanfon gartref.

Roedd y bobol ifanc wedi bod i’r un parti yn ardal Yoker, Glasgow, yn hwyr brynhawn Sadwrn. Fe ddaethon nhw’n eu holau i Dundasvale Court gyda’r nos, cyn gorfod cysylltu â’r gwasanaethau brys yn ystod oriau mân dydd Sul.