Mae gŵr a gwraig fu’n gyflwynwyr radio i’r BBC wedi eu dedfrydu i garchar, am gyfres o ymosodiadau rhywiol ar fechgyn dan oed ac am ymddwyn yn anweddus yn gyhoeddus.

Yn Llys y Goron Warwick fe gafodd Tony a Julie Wadsworth, oedd yn arfer gweithio i BBC Radio Leicester, eu canfod yn euog o annog chwech o ferchgyn, gan gynnwys bachgen yn ei arddegau, i ymuno mewn gweithgareddau rhywiol yn Swydd Warwick rhwng 1992 a 1996.

Clywodd y llys sut y gwnaeth Julie Wadsworth, 60 oed, ymosod yn anweddus ar naw bachgen a throseddu pum gwaith ac ymddwyn yn anweddus yn gyhoeddus, a hynny tra’r oedd ei gŵr 69 oed yn gwylio.

Wrth ddedfrydu’r ddau i bum mlynedd o garchar yr un, dywedodd y barnwr bod y troseddau “dychrynllyd” wedi achosi niwed emosiynol i’r dioddefwyr ifanc a bod achos y ddau yma wedi dangos y peryglon sy’n perthyn i ymddygiad anweddus o’r fath.