Mi fydd cwest i’r marwolaethau fu oherwydd ymosodiad gan hunanfomiwr ar Arena Manceinion yn dechrau’n swyddogol y bore yma.

Bu farw 22 o bobol gan gynnwys saith o blant pan gafodd dyfais ei ffrwydro gan yr hunanfomiwr, Salman Abedi, wrth i bobol adael cyngerdd y gantores Americanaidd, Ariana Grande.

Mae 21 o bobol wedi cael eu harestio hyd yma yn gysylltiedig â’r ymosodiad ddiwedd mis Mai, ac mae chwech yn parhau i fod yn y ddalfa.

Mae brawd a thad yr ymosodwr Salman Abedi wedi cael eu harestio yn Libya ond bellach mae ei gefndryd a’i frawd hŷn wedi eu rhyddhau o’r ddalfa.