Llun: PA
Mae heddlu sy’n ymchwilio ymosodiad Pont Llundain lle cafodd saith o bobol eu lladd, wedi arestio dyn dan amheuaeth o baratoi troseddau brawychol.

Cafodd y dyn 30 oed ei arestio yn ystod cyrch o adeilad yn nwyrain Llundain fore heddiw ac mae heddlu yn parhau i gynnal chwiliadau yno.

Daw’r arestiad wrth i awdurdodau diogelwch wynebu beirniadaeth gynyddol dros y ffordd cafodd tri ymosodwr Pont Llundain eu monitro cyn yr ymosodiad.

Adolygiad

Mae’n debyg y gwnaeth awdurdodau’r Eidal rhybuddio swyddogion Prydeinig am yr ymosodwr ifancaf, Youssef Zaghba, ond ni chafodd ei nodi fel “ffigwr o bwys” gan yr MI5.

Hefyd roedd yr ymosodwr, Khuram Shazad Butt, yn destun ymchwiliad yn 2015 ond ni ddaeth swyddogion o hyd i dystiolaeth yn ei erbyn ac felly cafodd ei labelu gan heddlu fel “blaenoriaeth is.”

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, wedi dweud ei bod yn disgwyl y bydd adolygiad swyddogol yn cael ei lansio yn sgil ymosodiad ddydd Sadwrn.