Ariana Grande (Llun oddi ar YouTube)
Fe allai un o ganeuon y gantores Ariana Grande gyrraedd rhif un yn y siartiau’r wythnos hon wedi ei pherfformiad yn y gyngerdd One Love Manchester yn Old Trafford nos Sul.

Mae ‘One Last Time’ eisoes yn yr ail safle yn y siartiau a hynny wedi iddo gyrraedd rhif 11 bythefnos yn ôl.

Mewn cyngerdd arbennig nos Sul, fe lwyddodd y trefnwyr i godi £2 filiwn at gronfa brys i helpu’r rhai gafodd eu heffeithio gan yr ymosodiad ar Fai 22 yn Arena Manceinion pan gafodd 22 o bobol eu lladd mewn cyngerdd gan y gantores 23 oed, Ariana Grande.

‘Unedig’

Daeth sêr y byd cerddorol ynghyd ym Manceinion dros y penwythnos i ddangos eu cefnogaeth, gan gynnwys Coldplay, Liam Gallagher, Miley Cyrus, Black Eyed Peas, Katy Perry, Justin Bieber, Little Mix, Take That a Robbie Williams.

Un fu’n rhan o’r dorf o 50,000 o bobol oedd Megan James, 24 oed, sy’n wreiddiol o Aberystwyth.

“Teimlad mwya’r noson oedd bod angen inni beidio â byw mewn ofn. Does dim ots o ba gefndir ry’n ni’n dod, pan chi’n unedig allwch chi drechu unrhyw beth,” meddai.

“Mae Manceinion yn ddinas gref a herfeiddiol ac mae pawb sy’n byw yma mor falch i’w alw’n gartref.”