Arena Manceinion Llun: Peter Byrne/PA Wire
Mae gorsaf drenau Fictoria ym Manceinion wedi ail agor wythnos wedi’r ymosodiad ar Arena Manceinion.

Gan fod yr orsaf yn rhannu cyntedd â’r Arena cafodd ei chau fel bod yr heddlu yn medru cynnal archwiliadau fforensig.

Bu farw 22 o bobl a chafodd dwsinau eu hanafu pan wnaeth yr ymosodwr, Salman Abedi, ffrwydro bom yn dilyn cyngerdd y gantores Americanaidd, Ariana Grande.

“Ein hwythnos dywyllaf”

“Mae’r ymateb gan bawb wedi bod yn arbennig,” meddai Maer Manceinion, Andy Burnham, ar ôl gosod blodau yn yr orsaf fore ddydd Mawrth.

“Rydym wedi gweld y gorau o bobol Manceinion a’r gorau o’n gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r lle cyfan wedi dod at ei gilydd ac mae pawb wedi  helpu pawb yn ystod ein hwythnos dywyllaf.”

Cafodd gwylnos ei chynnal yn Sgwâr St Ann nos Lun – union wythnos ers yr ymosodiad –  er mwyn cofio’r rhai fu farw.