Swyddogion arfog tu allan i Arena Manceinion (Llun: Peter Byrne/PA Wire)
Mae’r ymchwiliad i’r ymosodiad brawychol ym Manceinion wythnos yn ôl, wedi ymestyn i arfordir de Lloegr, gydag arestiad dyn yn swydd Gorllewin Sussex.

Mae’r dyn 23 oed wedi’i ddwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o droseddau brawychol, ac fe gafodd ei arestio mewn cyfeiriad yn Shoreham-by-Sea yn ystod oriau mân fore Llun, meddai Heddlu Greater Manchester.

Tua’r un pryd, roedd swyddogion gwrth-frawychiaeth yn gwneud cyrchoeddd ar dai ym Manceinion a Swydd Caer.

Mae 14 o ddynion yn y ddalfa bellach, mewn cysylltiad â’r ymosodiad brawychol ym Manceinion.