Swyddogion arfog y tu allan i Arena Manceinion Llun: Peter Byrne/PA Wire
Mae mam o Fanceinion wedi postio ar wefan gymdeithasol Facebook fod ei merch 15 oed ymhlith y rhai a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad brawychol ym Manceinion.

Roedd Olivia Campbell ymhlith y rhai aeth i gyngerdd Ariana Grande yn Arena Manceinion nos Lun.

Roedd e imam, Charlotte Campbell wedi bod yn apelio am wybodaeth am ei merch, oedd ar goll yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd hi ei bod hi wedi bod mewn cysylltiad â’i merch am oddeutu 8.30pm nos Lun.

Roedd ei thad a’i ffrindiau wedi bod yn chwilio amdani ers hynny.

Ond yn ei neges ddiweddaraf, dywedodd Charlotte Campbell: “Cwsg mewn hedd, fy merch brydferth, ddrudfawr, annwyl Olivia Campbell, wedi’i chipio’n llawer rhy fuan. Cer i ganu gyda’r angylion a chadw i wenu. Mae mami’n dy garu di’n fawr iawn.”