Roedd tân mynydd a orfododd pobol i symud o’u tai ganol nos, wedi ei gynnau’n fwriadol, meddai gwasanaeth tân yng Ngogledd Iwerddon.

Mae wyth injan dân, a 60 o ymladdwyr tân, wedi bod yn ceisio diffodd y fflamau yn Newry, County Down.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tân oedd yn agos iawn i dai ac ysgol uwchradd, tua 8.50yh nos Wener. Fe gafodd trigolion lleol eu symud o’u cartrefi dros dro, wrth i’r ymladdwyr gael y fflamau dan reolaeth, cyn ei ddiffodd yn llwyr erbyn tua 2 o’r gloch y bore.

Chafodd neb ei anafu yn ystod y digwyddiad, a chafodd yr un adeilad ei ddifrodi, ond mae llefarydd ar ran y gwasanaeth tân wedi galw am roi diwedd i achosion o gynnau tanau’n fwriadol.

Roedd y gwasanaeth wedi cael ei alw i tua 160 o achosion rhwng 6yh a 11yh nos Wener.