Mae pobol sy’n 50 oed a hŷn yn wynebu heriau “sylweddol” i ddygymod â chostau byw a chynilo ar gyfer ymddeol, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad yn nodi fod 1.8 miliwn o bobol dros eu hanner cant yng ngwledydd Prydain wedi dioddef “gwasgfa ariannol” yn ddiweddar.

Mae’r rhan fwyaf o’r rheiny’n ennill cyflog llai na £21,000 y flwyddyn, ac mae hanner y merched mewn cartrefi incwm isel neu ganol yn ennill llai na £12,600 y flwyddyn.

Cafodd yr astudiaeth ei gynnal gan Ganolfan Heneiddio’n Well a Sefydliad Resolution.

“Mae angen gwneud mwy i sicrhau fod pobol hŷn yn cael eu cefnogi i ddatblygu a chael mynediad at swyddi o safon dda,” meddai Anna Dixon, Prif Weithredwr Canolfan Heneiddio’n Well.

“Mae gwneud hynny’n bwysig i’r grŵp heddiw ac i’r genhedlaeth nesaf fydd hefyd, mae’n debyg, yn wynebu mwy o bwysau ar safonau byw.”