Mae dynes yn ei 20au wedi’i saethu gan yr heddlu, a phedwar o bobol eraill wedi’u harestio, yn ystod cyrch brawychiaeth yn Llundain a Chaint ddydd Iau.

Mae’r ddynes wedi’i chludo i’r ysbyty dan oruchwyliaeth yr heddlu, ac mae hi mewn cyflwr difrifol wedi’r cyrch ar gyfeiriad yng ngogledd Llundain.

Yn ol yr heddlu, roedd hi’n rhan o ymchwiliad gan swyddogion gwrth-frawychiaeth a oedd yn ymweld â nifer o dai yn Llundain ddoe.

Fe gafodd y wraig ei saethu wrth i blismyn geisio mynediad i gyfeiriad yn ardal Willesden toc cyn 7yh nos Iau.