Llun: PA
Mae sylfaenydd y wefan, Wikipedia, wedi penderfynu lansio gwasanaeth newyddion newydd i gystadlu’n erbyn twf newyddion ffug, sef Wikitribune.

Bydd newyddiadurwyr proffesiynol ynghyd â chyfranwyr o gymunedau’n cyfrannu at y wefan fydd am ddim ac yn casglu nawdd gan gefnogwyr yn hytrach na chynnig hysbysebion.

“Dyma fydd y tro cyntaf i newyddiadurwyr proffesiynol a dinasyddion gydweithio wrth ysgrifennu straeon wrth iddyn nhw ddigwydd, eu golygu wrth iddyn nhw ddatblygu a chael eu cefnogi gan gymuned yn gwirio ac ailwirio’r ffeithiau,” meddai’r sylfaenydd, Jimmy Wales.

Tryloywder’

Mae gwefannau cymdeithasol gan gynnwys Facebook wedi dod o dan lach yn ddiweddar am eu hymdriniaeth o newyddion ffug ar eu platfformau.

Ac mae Wikitribune yn dweud y byddan nhw’n cyhoeddi trawsgrifiadau o gyfweliadau i ategu at eu tryloywder.

Dywedodd Jimmy Wales fod y syniad yn ymwneud â chymunedau – “er enghraifft os ydych yn rhan o gymuned – tref fach yn rhywle – os allwch gael digon o gefnogwyr ynghyd gallwn roi gohebydd llawn amser yno i ohebu ar beth bynnag mae gennych chi ddiddordeb yno,” ychwanegodd.