Alex Salmond
Mae defnyddio taflegrau Cruise wedi cyflwyno dimensiwn peryglus i’r sefyllfa yn Syria, meddai cyn-arweinydd plaid yr SNP.

Yn ol Alex Salmond, sydd bellach yn gyfrifol am faterion tramor ar ran ei blaid, mae Donald Trump wedi colli cyfle i ddod â’r anghydfod i ben, trwy ddefnyddio’r arfau mewn ymateb i ymosodiad cemegol.

“Dim ond o wybod yn iawn beth sydd yn yr adeiladau sy’n cael eu taro, y dylid defnyddio arfau Cruise,” meddai Alex Salmond. “Mae angen asesu’r safle, a goblygiadau defnyddio’r taflegrau.

“Fe ddylai arfau Cruise hefyd fod yn rhan o ymgyrch ehangach, lle mae strategaeth glir er mwyn ceisio dod â’r rhyfel gwastraffus a dinistriol hwn yn Syria i ben.

“Yn yr achos hwn,” meddai Alex Salmond wedyn, “mae’n ymddangos i mi fod yr ymosodiad hwn gan yr Unol Daleithiau yn gwrthwneud yr ymdrech ar y cyd rhwng Rwsia ac America, a cheisio perswadio’r arlywydd Assad.”