Mae gwasanaeth aml-ffydd wedi’i gynnal yn Abaty Westminster union bythefnos ar ôl i bedwar o bobol gael eu lladd mewn ymosodiad brawychol gan Khalid Masood yn Llundain.

Mae oddeutu 1,800 o bobol yn yr abaty ar gyfer y gwasanaeth.

Ymhlith y gynulleidfa mae aelodau’r teulu brenhinol, Maer Llundain Sadiq Khan, arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow, yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd, penaethiaid Heddlu Llundain ac aelodau’r gwasanaethau brys.

Bu farw Kurt Cochran (54), Leslie Rhodes (75), Aysha Frade (44) a’r plismon Keith Palmer (48) yn y digwyddiad oedd wedi para 82 eiliad ar Fawrth 22.

Cafodd Kurt Cochran, Leslie Rhodes ac Aysha Frade eu taro gan gar Khalid Masood ar bont Westminster, tra bod Keith Palmer wedi’i drywanu i farwolaeth ger Palas Westminster.

Cafodd Khalid Masood, 52, ei saethu’n farw gan yr heddlu.