Ken Livingstone
Mae Aelodau Seneddol Llafur ynghyd â grwpiau Iddewig wedi cyhuddo’r blaid Lafur o beidio â bod yn ddigon llym wrth ddisgyblu cyn-Faer Llundain tros honiadau a wnaeth ar orsaf radio.

Fe gafodd Ken Livingstone ei wahardd o’r blaid am ddwy flynedd neithiwr, yn dilyn sylwadau a wnaeth am Adolf Hitler a Seioniaeth – penderfyniad sydd wedi’i lambastio fel un “pathetig” gan un AS, John Woodcock.

Mewn sylw ar wefan gymdeithasol Twitter, meddai: “Mae’r dyfarniad pathetig hwn yhn achos Livingstone yn foment bwysig, aelodau Llafur: ydan ni’n gwrthsefyll hyn yn weddus, neu a ydan ni’n rhan o’r pydredd?”

Mae’r Aelod Seneddol, Wes Streeting hefyd wedi bod yn dweud ei ddweud ar Twitter: “Beth ddigwyddodd i beidio godde’ gwrth-Semitiaeth? Mae hyn yn bradychu cefnogwyr Llafur sy’n Iddewon, ac mae’n bradychu hefyd werthoedd craidd ein plaid.”

Nid y tro cyntaf

Meddai prif weithredwr yr Holocaust Educational Trust, Karen Pollock: “Dydi’r ddedfryd hon yn ddim mwy na chwip din fach i rywun sydd wedi troseddu o’r blaen.  Mae meddwl bod un o’r prif bleidiau gwleidyddol yn ystyried safbwynt hwn fel un y mae croeso iddo o fewn ei rhengoedd, yn dangos nad ydi gwrth-Semitiaeth yn cael ei ystyried mor ddifrifol â mathau eraill o hiliaeth a rhagfarn.”

Roedd y Cyngor Arweinwyr Iddewig wedi disgwyl y byddai Ken Livingstone yn cael ei ddiarddel o’r blaid Lafur pe bai’r panel yn ei gael yn euog. Dydi gwaharddiad dros dro, medden nhw, yn dda i ddim.

Ac mae Joe Glasman, o’r Ymgyrch yn erbyn Gwrth-Semitiaeth o’r farn bod Ken Livingstone wedi bod yn portreadu’r Iddewon fel Natsïaid “ers degawdau”. Mae’r honiad fod Adolf Hitler wedi cefnogi Seionistiaeth ar ddechrau’r 1930au, meddai, yn “wrthun”.