Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae cynlluniau Llywodraeth Prydain ar gyfer Brexit yn “ddiofal a niweidiol”, yn ôl arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Roedd yn ymateb ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May danio Erthygl 50 i ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Jeremy Corbyn fod rhaid i’r Prif Weinidog a’i llywodraeth “wrando, ymgynghori a chynrychioli’r wlad gyfan” yn y trafodaethau fydd yn dilyn dros y ddwy flynedd nesaf.

Ychwanegodd na fydden nhw’n cael “rhwydd hynt” i ddefnyddio Brexit er mwyn ymosod ar hawliau ac i dorri gwasanaethau, a bod rhaid i’r setliad adlewyrchu dymuniadau’r holl bobol yn hytrach na dim ond y rheiny oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd: “Mae’r cyfeiriad y mae’r Prif Weinidog yn bygwth mynd â’r wlad iddo’n ddiofal a niweidiol.”

Diffyg cytundeb

 

Ychwanegodd Jeremy Corbyn y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd ymhen dwy flynedd heb gytundeb yn arwain at oblygiadau dinistriol i wledydd Prydain.

“Byddai’n fethiant cenedlaethol ar raddfa hanesyddol pe bai’r Prif Weinidog yn dychwelyd o Frwsel heb fod wedi sicrhau bod swyddi a safonau byw wedi cael eu gwarchod.”

Galwodd unwaith eto am sicrhau mynediad i’r farchnad sengl er mwyn gwarchod yr economi.