Liz Saville Roberts
Mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn dweud y bydd yn rhaid iddi aros yn siambr Palas San Steffan nes y bydd y sefyllfa y tu allan wedi dod dan reolaeth.

Mewn neges Twitter at golwg360, meddai Liz Saville Roberts:

“Yn y Siambr. Y diweddara yw bod rhaid aros nes bod y car ger Carriage Gates yn cael ei symud. Yma am dipyn tebygwn.”

Fe gafodd y Prif Weinidog, Theresa May, ei chludo ar frys mewn car o San Steffan wedi i blismon gael ei drywanu, ac wedi i’r dyn sy’n cael ei amau o’r drosedd gael ei saethu.

Yn ôl adroddiadau, fe yrrodd car ar draws Pont Westminster gan daro nifer o bobol, cyn mynd ar ei ben i mewn i’r gatiau sy’n cael eu hadnabod fel ‘Carriage Gates’.