Storm Doris (Llun: Y Swyddfa Dywydd)
Mae dynes wedi marw yng nghanol dinas Wolverhampton ar ôl cael ei bwrw gan falurion o wyntoedd cryfion Storm Doris.

Cadarnhaodd y gwasanaethau brys ei bod wedi marw ar y safle y tu allan i siop goffi Starbucks ar ôl dioddef o “anafiadau difrifol i’w phen”, yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ei fod wedi cael ei alw i “ddigwyddiad difrifol” am tua 11:50 y bore.

Mae hyrddiadau o 94 milltir yr awr wedi cyrraedd Cymru, gyda Swyddfa’r Met yn dweud mai Capel Curig oedd y lle mwyaf gwyntog ledled gwledydd Prydain.

Mae’r awdurdodau felly’n rhybuddio pobol i gymryd gofal ac i fynd allan dim ond os oes rhaid, gyda disgwyl i’r tywydd garw barhau tan tua 6 prynhawn yma.