Mae pâr ifanc o wledydd Prydain mewn cyflwr difrifol mewn ysbyty yn Ffrainc, wedi iddyn nhw gael eu taro gan gar.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn La Clusaz yn Haute-Savoie, a hynny’n gynnar nos Fercher. Y gred ydi bod y pâr yn aros am fws pan gawson nhw eu taro gan y cerbyd.

Mae heddlu Ffrainc yn ceisio dod o hyd i yrrwr y car, wedi i’r cwpwl gael eu cludo i Annecy.

“Mae ymchwiliad ar y gweill,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu’n lleol. “Ar hyn o bryd, fe allwn ni gadarnhau bod y cwpwl yn teithio ar droed pan gawson nhw eu taro gan gar. Rydan ni’n gwneud ein gorau i adnabod y gyrrwr.”