Mae disgwyl y bydd gwyntoedd cryfion, glaw ac eira yn rhai mannau heddiw wrth i Storm Doris daro gwledydd Prydain.

Mae rhybuddion y gallai tywydd gwael achosi problemau trafnidiaeth a difrod i adeiladau, ac mae modurwyr wedi eu hannog i fod yn wyliadwrus os yn mentro ar y ffyrdd.

Bydd y gwyntoedd ar eu cryfaf yng Nghymru a Lloegr lle bydd gwyntoedd 70 milltir yr awr ger yr arfordir ac ar fryniau yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae rhybudd melyn mewn grym dros lawer o’r Alban, ac mae’n bosib y bydd rhwng 15cm a 30cm o eira yn disgyn yno.

Dyma fydd y storm aeafol cyntaf ers Storm Conor wnaeth daro dwy fis yn ôl gan effeithio cyflenwad pŵer nifer o dai yng ngogledd y Deyrnas Unedig.

“Wrth i Storm Doris symud tuag at y Dwyrain dros ardaloedd yng nghanol y Deyrnas Unedig, mae disgwyl bydd eira trwm yn disgyn yng ngogledd Prydain. Mae peth aneglurder o ran llwybr Doris ond mae’n debygol iawn fydd eira mewn mannau,” meddai’r Swyddfa Dywydd.