Helen Bailey gyda'i chymar, Ian Stewart (Llun: PA)
Mae cymar awdures wedi’i gael yn euog o’i gwenwyno a’i lladd hi mewn ymgais i etifeddu ei harian.

Treuliodd Ian Stewart fisoedd yn gwenwyno Helen Bailey, awdures y gyfres Electra Brown, cyn ei lladd hi ym mis Ebrill 2016.

Cafodd ei chorff ei lusgo i bwll carthffosiaeth yng nghartre’r pâr yn Swydd Hertford, a daethpwyd o hyd iddo dri mis yn ddiweddarach.

Cafwyd Ian Stewart yn euog o lofruddio, o dwyll, gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac o atal claddedigaeth.

Clywodd y llys fod Ian Stewart wedi dod o hyd i Helen Bailey ar y we yn 2011, a’i fod e wedi symud i mewn i’w chartref, sy’n werth £3.3 miliwn.

Dros gyfnod o wythnosau, roedd e wedi bod yn rhoi cyffuriau iddi, o bosib yn ei bwyd a’i diod.

Mae lle i gredu ei fod e wedi defnyddio clustog i’w lladd hi tra ei bod hi’n cysgu, ac fe laddodd gi’r pâr hefyd.

Bydd yr heddlu’n ail-agor ymchwiliad i farwolaeth gwraig gyntaf Ian Stewart, Diane, a fu farw’n sydyn yn 2010. Bydd Ian Stewart yn cael ei ddedfrydu ddydd Iau.