Shaun Colin Walmsley
Mae llofrudd sydd i fod i dreulio 30 mlynedd mewn carchar yn Lerpwl, ar ffo wedi i ddau ddyn arfog ei helpu i ddianc yn ystod apwyntiad ysbyty.

Fe ddihangodd Shaun Colin Walmsey ger Ysbyty Prifysgol Aintree wrth iddo gael ei gludo i gerbyd gan swyddogion carchar.

Roedd gan y ddau ddyn wn a chyllell, ac mi wnaethon nhw fygwth y swyddogion cyn dianc mewn car Volvo aur.

Chafodd neb ei niweidio yn ystod yr ymosodiad, a bellach mae’r heddlu yn cynnal chwiliadau trwyadl yn yr ardal.

Troseddwr diedifar

Cafodd Shaun Colin Walmsley ei garcharu am oes yn 2015 yn dilyn llofruddiaeth Anthony Duffy ym mis Mai 2014.

Bu farw Anthony Duffy yn dilyn ymosodiad â chyllell gan Shaun Colin Walmsley a thri dyn arall, ac yn ôl Heddlu Glannau Merswy roedd y troseddwyr yn “ddiedifar.”