Mosul, Irac
Roedd milwr IS o wledydd Prydain a fu farw yn ystod ymosodiad yn Irac, wedi bod yn garcharor ym Mae Guantanamo.

Fe ymosododd Abu Zakariya Al-Britani (a fedyddiwyd Ronald Fiddler) ar bentref ger Mosul trwy yrru car oedd wedi ei lenwi â ffrwydron at wersyll milwrol yr wythnos hon.

Cafodd y dyn 50 oed ei garcharu yn y ganolfan gan yr Unol Daleithiau ond cafodd ei rhyddhau yn 2004 o ganlyniad i lobio dwys gan lywodraeth Tony Blair.

Roedd Abu Zakaryia Al-Britani yn honni ei fod wedi cael ei arteithio ac fe dderbyniodd £1 miliwn o iawndal gan y Llywodraeth wedi iddo gael ei rhyddhau.

Gwnaeth y bomiwr oedd â’r enw Ronald Fiddler yn wreiddiol, droi yn Fwslim yn ystod yr 1990au a chafodd ei ddal yn 2001 gan luoedd yr UDA ym Mhacistan.

Irac a Syria

Mae tua 850 o Brydeinwyr wedi teithio i frwydro yn Irac a Syria a’r gred yw bod hanner wedi dychwelyd i wledydd Prydain tra bod 15% yn farw.

“Mae’r Deyrnas Unedig yn cynghori pobol i beidio â theithio i Syria a rhannau helaeth o Irac.

“Gan fod ein gwasanaethau consylaidd wedi dod i ben yn Syria ac â chyfyngiadau mawr yn Irac, mae hi’n anodd cadarnhau lleoliad a statws pobol Brydeinig yn yr ardaloedd yma,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.