Llun: PA
Fe allai rhai ceisiadau am loches yn y Deyrnas Unedig gan blant sy’n ffoaduriaid yn Ffrainc gael eu hadolygu, meddai’r Swyddfa Gartref.

Mae gweinidogion wedi dod dan bwysau i roi lloches i ragor o ffoaduriaid.

Fe fydd swyddogion yn ail-ystyried ceisiadau gan blant, a oedd wedi bod mewn gwersyll i fewnfudwyr yn Calais, os oes gwybodaeth newydd amdanyn nhw.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi dod i gytundeb gyda’r awdurdodau yn Ffrainc ond dim ond plant sydd â chysylltiadau teuluol yn y Deyrnas Unedig fydd yn cael eu hail-ystyried.