Roedd arweinydd Ukip, Paul Nuttall, i’w weld yn ei ddagrau pan wnaeth e’ ofyn i aelodau’r blaid os oedden nhw’n ei gefnogi.

Safodd cynulleidfa cynhadledd y blaid yn Bolton ar eu traed i ddangos eu cefnogaeth iddo, a’i wneud yn emosiynol.

Mae Paul Nuttall yn wynebu galwadau i ymddiswyddo fel Aelod Seneddol Ewropeaidd ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod honiadau ei fod wedi colli ffrindiau yn nhrychineb Hillsborough yn gelwydd.

Mae e’n brwydro i gipio un o seddi’r Blaid Lafur yn Nhŷ’r Cyffredin, yn isetholiad Canol Stoke, fydd yn digwydd ddydd Iau nesaf [23 Chwefror].

Er iddo ddweud ei fod am barhau i ymladd, fe wrthododd ateb cwestiynau’r wasg yn y gynhadledd am Hillsborough.

“Ymgyrch taflu baw”

Dywedodd Paul Nuttall wrth y gynhadledd ei fod yn derbyn y bai am yr honiad ffug ar ei wefan ynghylch colli ffrindiau agos yn Hillsborough.

Ond beirniadodd yr “ymgyrch taflu baw” yn ei erbyn, ar ôl i amheuon godi dros ei bresenoldeb yn y digwyddiad yn 1989, lle bu 96 o bobol farw.

“Bydd llawer o bobol yn sylwi fy mod wedi cael wythnos digon anodd,” meddai.

“Yn gyntaf, dw i’n cymryd y bai am y ffaith fy mod wedi methu â gwirio’r hyn oedd ar fy ngwefan yn fy enw i, fy mai i oedd hynny a dw i’n ymddiheuro.

“Ond bydda’ i ddim yn ymddiheuro am yr hyn sydd wedi bod yn ymgyrch taflu baw creulon, sydd wedi’i threfnu a’i hanelu ata’ i.”

Wrth edrych ar y gynulleidfa, dywedodd: “Cefais fy holi ddoe gan ddau newyddiadurwr, os oes gen i gefnogaeth fy mhlaid o hyd.”

Gyda hynny, safodd y gynulleidfa ar ei thraed a bloeddio eu cymeradwyaeth, gydag un dyn yn gweiddi “cymrwch honna!”

Gan dynnu ei sbectol a sychu deigryn o’i lygad, dywedodd Paul Nuttall: “Diolch, dw i’n teimlo’n emosiynol. Diolch.”