Mae pump o ddisgyblion wedi’u cludo i’r ysbyty yn dilyn damwain bws yn yr Alban.
Roedd 40 o ddisgyblion ar y bws pan syrthiodd oddi ar heol Downanfield ger Ysgol Uwchradd Our Lady, Cumbernauld, Swydd Lanark, tua 8.45yb ddydd Iau.
Cafodd pum merch eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y damwain, ond nid yw un ohonyn nhw wedi ei niweidio’n ddifrifol.
Nid yw’n glir beth achosodd y ddamwain ac mae’r bws o hyd ar ei ochr ar allt ger y ffordd sydd bellach wedi’i chau.