Mae dynes sydd wedi ei chyhuddo o ymosod ar ddyn gydag asid, bellach wedi’i chyhuddo o lofruddio ar ôl i’r ddioddefwr honedig farw.

Mae Berlinah Wallace, 47, o Fryste, wedi cael ei chyhuddo o ladd Mark Van Dongen, 27, a fu farw yng Ngwlad Belg ym mis Ionawr.

Fe ddioddefodd Mark Van Dongen anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad ym Mryste ar 23 Medi, 2015.

Roedd disgwyl i Berlinah Wallace, oedd wedi cael ei chyhuddo o daflu asid yn fwriadol, fynd gerbron y llys ym mis Ebrill.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Bryste heddiw, cafodd y cyhuddiad ei newid i lofruddiaeth.

Mae wedi’i chyhuddo o lofruddio Mark Van Dongen rhwng 22 Medi 2015 a 3 Ionawr 2017.