Jimmy White (Llun: Wikipedia)
Mae adroddiadau fod “popeth” y tu mewn i gartre’r cyn-chwaraewr snwcer, Jimmy White, wedi’i losgi’n ulw gan dân.

Y gred ydi mai nam trydanol a achosodd i’r fflamau gynnau yn fflat y chwaraewr 54 oed a ddaeth mor agos at gipio teitl Pencampwr y Byd chwech o weithiau yn ystod yr 1980au.

Mae adroddiadau yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn dyfynnu Jimmy ‘The Whirlwind’ White yn cadarnhau fod “popeth” wedi’i ddinistrio yn y fflat yn Epsom, Surrey, oni bai am ei “hoff giw snwcer”.

Roedd Jimmy White ei hun oddi cartre’ pan gynheuodd y fflamau.