Llun: PA
Mae chwyddiant wedi codi i’w lefel uchaf ers dwy flynedd a hanner fis diwethaf, wrth i brisiau hedfan gynyddu a gostyngiad yng ngwerth y bunt effeithio prisiau bwyd.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) sy’n mesur chwyddiant wedi cynyddu i 1.6%, o 1.2% ym mis Tachwedd.

Roedd economegwyr wedi darogan cynnydd i 1.4%.

Mae’n golygu bod CPI wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers mis Gorffennaf 2014, pan gyrhaeddodd 1.6%.

Y cynnydd mewn prisiau bwyd sy’n bennaf gyfrifol am y cynnydd mewn CPI gyda chynnydd mewn cost llysiau yn gwthio prisiau bwyd i fyny 0.8% rhwng mis Tachwedd a Rhagfyr.

Pryder ynglŷn â Brexit

Mae gostyngiad yng ngwerth y bunt hefyd yn ffactor ond nid yn bennaf gyfrifol am y cynnydd mewn prisiau bwyd, meddai’r ONS. Mae pryder ynglŷn â Brexit wedi golygu bod gwerth y bunt wedi gostwng i 1.21 yn erbyn y ddoler ym mis Rhagfyr.

Roedd cynnydd o 49% mewn costau hedfan rhwng mis Tachwedd a Rhagfyr wedi cyfrannu at gynnydd o 2.9% mewn prisiau trafnidiaeth.

Mae costau byw hefyd wedi cynyddu oherwydd gostyngiad llai mewn prisiau petrol – 0.4% rhwng mis Tachwedd a Rhagfyr o’i gymharu â 2.8% yn yr un cyfnod yn 2015.

Roedd y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) sy’n fesur ar wahân ar gyfer chwyddiant ac yn cynnwys costau tai – wedi cynyddu i 2.5% o 2.2% ym mis Tachwedd.