Tonnau'n torri ar harbwr Seaham yng ngogledd-ddwyrain Lloegr amser cinio heddiw (llun: Owen Humphreys/PA Wire)
Mae miloedd o bobl wedi ffoi o’u cartrefi wrth i arfordir dwyreiniol Lloegr baratoi am lifogydd difrifol.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi 17 o rybuddion difrifol – sy’n rhybuddio am beryglon i fywyd – gyda siroedd Norfolk, Suffolk ac Essex o dan fwyaf o fygythiad.

Gyda gwyntoedd cryfion yn cyd-ddigwydd â llanw uchel heno, mae disgwyl y bydd tonnau’n torri dros forgloddiau.

Mae pobl wrthi’n gadael eu tai yn Great Yarmouth yn Norfolk, Jaywick, Mistley a Mersea yn Essex a rhannau o ddwyrain Suffolk.

Mae disgwyl i’r risg o lifogydd yn Great Yarmouth fod ar ei uchaf tua 9.30 heno, yn ôl yr heddlu, sy’n gweithio gyda’r gwasanaeth tân a’r fyddin i ymweld â 5,000 o dai i rybuddio’r trigolion.

“Mae’r camau hyn yn angenrheidiol ar sail yr wybodaeth ddiweddaraf gan Asiantaeth yr Amgylchedd, sy’n awgrymu bod y bygythiad yn sylweddol,” meddai’r Uwcharolygydd Dave Buckley, sy’n trefnu’r ymateb ar y cyd rhwng gwahanol asiantaethau.