Roedd Nadolig 2016 y gorau i archfarchnad Morrisons ers saith mlynedd, meddai’r cwmni, wrth gyhoeddi cynnydd o 2.9% yng ngwerthiant y llynedd o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.

Fe wnaeth y cwmni’n well na’r disgwyl yn y naw wythnos yn arwain at Ionawr 1, 2017, gan nodi elw cyn-treth o rhwng £330m a £340m.

“Flwyddyn a hanner yn ôl, ro’n i’n dweud mai fel tim o gydweithwyr y byddem yn llwyddo i wella’n perfformiad,” meddai David Potts, prif weithredwr Morrisons.

“A dyna’n union sydd y tu ôl i’r ffordd yr ydyn ni wedi gallu newid pethau. Mae’r cynnydd hwn o ganlyniad i waith caled parhaus y tim o gynhyrchwyr bwys, a’r gweithwyr yn y siopau.”