Martin McGuinness (Llun: CCA 2.0)
Mae Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness, wedi cyhoeddi ei fod am ymddiswyddo.

Daw hyn fel protest ganddo i’r modd y mae Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) wedi ymdrin â chynllun ynni adnewyddol.

Mae disgwyl i gyhoeddiad aelod Sinn Fein arwain at etholiad Cynulliad sydyn yn y rhanbarth.

Fe wnaeth Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Arlene Foster, wrthod galwadau ganddo i gamu o’r neilltu i ganiatáu ymchwiliad i sgandal cynllun gwresogi sydd wedi gadael Stormont yn wynebu gorwariant o £490 miliwn.

Dywedodd Martin McGuinness: “Fe wnaeth y Prif Weinidog wrthod camu o’r neilltu, heb ragfarn, wrth aros am adroddiad cychwynnol o ymchwiliad.

“Nid yw’r sefyllfa yna’n gredadwy nac yn gynaliadwy,” meddai.

Dywedodd na fyddai Sinn Fein yn ei adleoli ef ac, am hynny, awgrymodd fod etholiad yn “anochel”.