Mae Banc Lloegr wedi cyfaddef bod economegwyr yn wynebu  trafferthion mawr wrth geisio rhagweld sut fydd economi’r Deyrnas Unedig yn perfformio yn y dyfodol.

Disgrifiodd prif economegydd y Banc, Andy Haldane, y rhybuddion o wae i’r economi yn sgîl Brexit fel “moment Michael Fish” economegwyr.

Daeth y dyn tywydd Michael Fish yn destun gwawd yn 1987 wedi iddo wadu bod storm fawr a chorwyntoedd ar y ffordd. Bu farw 18 o bobol yn y storm waethaf i daro de ddwyrain Lloegr ers canrifoedd.

Ers y refferendwm, mae economi gwledydd Prydain wedi perfformio yn well na’r disgwyl,ond mae gwerth y bunt wedi syrthio 17% yn dilyn y bleidlais Brexit ar Fehefin 23.

Yn ôl Andy Haldane mae economegwyr yn gorfod darogan cyflwr yr economi Prydeinig er gwaetha’r ffaith bod hi’n “amhosib gwybod” beth fydd canlyniad y trafodaethau ar Brexit.

Wrth siarad mewn digwyddiad wedi’i drefnu gan y Sefydliad dros Lywodraeth, dywedodd Andy Haldane ei fod wedi’i synnu bod yr economi yn gwneud cystal yn dilyn Brexit.

Cyfaddefodd hefyd fod economegwyr wedi methu rhagweld argyfwng ariannol 2008.

“Mae’n deg i ddweud bod y proffesiwn mewn rhywfaint o argyfwng,” meddai Andy Haldane.

Mae Banc Lloegr wedi llunio gwahanol fodelau o ragweld dyfodol yr economi, yn seiliedig ar y Deyrnas Unedig yn sefydlu cytundeb masnach â’r Undeb Ewropeaidd neu’n gorfod dibynnu ar reolau Sefydliad Masnach y Byd yn dilyn dwy flynedd o danio Erthygl 50.

“Fel mae pethau’n sefyll, dyna’r gorau fedrwch chi wneud o ystyried y cwmwl o ansicrwydd sy’n bodoli, ac y bydd yn parhau i fodoli am gyfnod eto,” ychwanegodd Andy Haldane.