David Hempleman-Adams (o wefan y Polar Ocean Challenge)
Mae anturiaethwr enwog wedi galw gwleidyddion yn “llwfr” ar ôl gweld effeithiau newid hinsawdd ar y rhew yn yr Arctig.

Fe rybuddiodd y Sais, David Hempelman-Adams, fod yr ardal ar “ymyl y dibyn” o ran colli ia a fod rhaid gweithredu ar unwaith i atal newid hinsawdd.

Roedd yr anturiaethwr – a gafodd ei wneud yn farchog yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd – wedi llwyddo i hwylio tros ogledd y byd mewn diwrnod tros bedwar mis a hynny, meddai, yn dangos cyn lleied o rew sydd ar ôl.

Yn draddodiadol, roedd y daith yn cymryd tair blynedd, gyda llongau weithiau’n cael eu dal yn gaeth yn yr ia ond, y tro yma, roedd miloedd o filltiroedd heb ia o gwbl.

‘Llyfrgwn’

Roedd angen ffeithiau caled er mwyn perswadio gwleidyddion i weithredu, meddai David Hempleman-Adams, gan ddweud bod angen gweithredu yn ogystal ag addo.

Roedd angen dangos cymaint fydd y costau os bydd rhagor o’r rhew’n diflannu a hynny’n arwain at gynnydd mawr yn lefelau’r môr – mae astudiaethau’n dangos bod 30% o rew’r Arctig wedi ei golli yn ystod y chwarter canrif ddiwetha’.

“Maen nhw’n llwyth o lyfrgwn a dydyn nhw ddim eisiau colli eu swyddi,” meddai wrth wasanaeth newyddion PA, ar ôl gwneud taith y Polar Ocean Challenge trwy’r Arctic  er mwyn dangos effeithiau newid hinsawdd.

  • David Hempleman-Adams yw’r unig ddyn erioed i gyrraedd pegynnau magnetig y De a’r Gogledd a dringo mynyddoedd ucha’ saith cyfandir.