Mae dau ddyn wedi’u haretio gan dditectifs yn ne Lloegr sy’n ymchwilio i ymosodiadau â chyllyll ar ddreifars tacsi dros gyfnod y Nadolig.

Fe gafodd arian parod a ffonau symudol eu dwyn gan bedwar gyrrwr yn Portsmouth ar Ragfyr 30 a 31.

Mae Heddlu Hampshire yn dweud eu bod nhw’n credu bod cysylltiad â lladrad arall yn si0p Spar yn Paulsgrove ar Ragfyr 28.

Mae dau ddyn, 46 a 41 oed, o Portsmouth, wedi cael eu harestio, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.