Mae bachgen 13 oed wedi marw yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gar.

Fe gafodd y bachgen yn ei arddegau ei daro ar gyffordd yn Wolverhampton, o gwmpas 2yp ddydd Iau, Rhagfyr 29.

Bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty, tra bod gyrrwr y car hefyd wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn diodde’ o effeithiau sioc.

Mae Heddlu’r West Midlands Police wedi cadarnhau fod y gyrrwr yn eu cynorthwyo gyda’u ymchwiliad i’r digwyddiad.