Mae marwolaeth dyn yn ninas Glasgow ar ddydd Nadolig, yn cael ei thrin fel llofruddiaeth.

Roedd y dyn 43 oed yn un o ddau a gafodd eu targedu yn ardal Saracen o’r ddinas ddoe.

Mae’r ail ddyn, 50, mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty, lle mae’n dal i dderbyn triniaeth.

Mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau eu bod nhw wedi’u galw i ymdrin â ffrwges yng nghefnau tai Ashgill Road tua 4 o’r gloch y bore, ddydd Sul.

Fe ddaethon nhw o hyd i’r gwr 43 oed gydag anafiadau difrifol i’w ben, ac fe gafodd ei gludo gan ambiwlans i Ysbyty’r Inffyrmari Brenhinol yn Glasgow, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r dyn 50 oed yn derbyn triniaeth yn Ysbyty’r Frenhines Elizabeth yn y ddinas.